South Wales Trunk Road Agency

Asedau Strwythurol

Mae asedau strwythurol y Cynulliad yn cynnwys y mathau canlynol o strwythurau:

  • Pontydd
  • Cylfatiau concrit
  • Cylfatiau metel rhychog
  • Tanffyrdd i gerddwyr neu wartheg
  • Muriau cynnal
  • Gantrioedd arwyddion
  • Mastiau uchel ar gyfer goleuadau neu gamerâu.

Mae cofnodion cywir o strwythurau yn ffordd bwysig o reoli’r rhaglen o arolygiadau a nodi gwaith sy’n ofynnol neu sydd wedi’i wneud eisoes.

Llandelio Bridge

Mae’r Tîm Cyflwr Asedau yn gyfrifol am sefydlu a chynnal a chadw rhaglen arolygu’r holl strwythurau i sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffyrdd a nodi gwaith sy’n angenrheidiol i gadw’r strwythurau mewn cyflwr defnyddiol.

 

 




Mae’r math o arolygiadau a wneir yn cynnwys

  • arolygiadau cyffredinol
  • prif arolygiadau
  • mân arolygiadau
  • arolygiadau arbennig ac
  • arolygiadau dan y dŵr.
South Wales Trunk Road Agency

Dadansoddir yr adroddiadau i asesu’r diffygion a ganfuwyd. Ychwanegir gweithiau adferol o natur reolaidd i raglen neu gynlluniau a  geir ar gyfer gwaith cynnal a chadw neu wella mwy o faint.

Mae’r tîm yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl weithiau arfaethedig neu sydd wedi eu gwneud yn rhoi gwerth am arian yn nhermau cost bywyd cyfan.

Rhowch wybod am Ddigwyddiad

Rhowch wybod i ni am falurion neu geudyllau ar:

0845 602 6020

Traffic Image

Y Diweddaraf am y Traffig


yn Nhrafnidiaeth Cymru


Photo of a Road Steward

Diwrnod ym Mywyd:


Stiward y Ffyrdd