South Wales Trunk Road Agency

Rheoli’r Amgylchedd a’r Ystâd Feddal

Mae’r ystâd feddal yn cynnwys:

  • ardaloedd ymylon y priffyrdd
  • argloddiau
  • torri’r llechweddau
  • ardaloedd mewn cyfnewidfeydd mawr ac
  • ardaloedd tir a gafwyd yn ystod cynlluniau adeiladu ffyrdd

Defnyddir yr ardaloedd hyn i liniaru yn erbyn effeithiau gweledol ac amgylcheddol eraill y ffyrdd a’r traffig.

Er bod llawer o’r ystâd feddal yn cynnwys lleiniau cul o laswelltiroedd, tir diffaith neu goetiroedd yn agos i’r ffordd, mae’n darparu cynefin gwerthfawr ar gyfer bywyd gwyllt a rhywogaethau planhigion.

Gall ymylon ffyrdd fod o werth penodol os ydynt yn cynnwys cynefin gwerthfawr sydd hefyd yn ffinio ag ardaloedd mwy o dir fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu ardaloedd a ddiogelir neu rai dynodedig.

a picture of an orchid

I’r gwrthwyneb, ystyrir bod ffyrdd yn cael effeithiau negyddol arwyddocaol ar fioamrywiaeth a gall fod yn ffactor sy’n dylanwadu ar ddirywiad neu golli rhai cynefinoedd neu rywogaethau mewn rhai amgylchiadau. 

Mae’r rhesymau dros hyn yn cynnwys:

  • adeiladu ffyrdd
  • ffyrdd yn ffurfio rhwystrau i fywyd gwyllt i symud
  • digwyddiadau lladd ar y ffordd
  • llygredd, aflonyddu gan sŵn a golau artiffisial.

Datblygir rhestr o ardaloedd wedi’u plannu a’r rhywogaethau yn yr ardaloedd hynny gan sicrhau gweithredu cynnal a chadw ar gyfer priffyrdd a dibenion rheoli’r dirwedd mewn ffordd sy’n cydymdeimlo â diogelu rhywogaethau a chynefinoedd.

Prif bryder y tîm yw diogelwch defnyddwyr y ffyrdd ond hefyd mae ymrwymiadau cyfreithiol a moesol i dirfeddianwyr cyfagos. Torrir y borfa a gwneir gwaith glanhau arall i ddiogelu gwelededd mewn cyffyrdd, osgoi rhwystrau o flaen arwyddion a darparu llecynnau diogel ar gyfer cerddwyr neu gerbydau sydd wedi torri i lawr.

DolauLedge

Y broblem fwyaf cyffredin i dirfeddianwyr cyfagos yw problem chwyn niweidiol yn lledaenu i dir cyfagos. Mae’n rhaid i’r tîm sicrhau bod ymagwedd ragweithiol yn bodoli ynghylch rheoli chwyn ar draws y rhwydwaith.

Mae’r tîm yn cydlynu arolygu’r coed i nodi unrhyw goed marw neu sydd ar fin marw ac sydd o fewn pellter syrthio i’r briffordd. Gall y rhain hefyd fod ar dir cyfagos.

Mae tresbasu ar y briffordd neu rwystro arwyddion, camerâu neu oleuadau’r ffordd hefyd yn broblem sydd angen ei rheoli wrth aflonyddu neu niweidio cyn lleied â phosibl ar gynefinoedd bywyd gwyllt.

 

Rhowch wybod am Ddigwyddiad

Rhowch wybod i ni am falurion neu geudyllau ar:

0845 602 6020

Traffic Image

Y Diweddaraf am y Traffig


yn Nhrafnidiaeth Cymru


Photo of a Road Steward

Diwrnod ym Mywyd:


Stiward y Ffyrdd