Peirianneg Asedau
Mae’r tîm peirianneg asedau yn gyfrifol am ddatblygu rhaglen waith a gweithredu cynlluniau adnewyddu ac uwchraddio trwy gaffael gwasanaethau cynllunio.
Mae’r gwaith hwn yn cynnwys
- Nodi a blaenoriaethu cynlluniau’r dyfodol
- Peirianneg gwerth a rheoli gwerth cynlluniau
- Paratoi a chyflwyno cynigion ar gyfer cynlluniau’r dyfodol
- Caffael gwasanaethau cynllunio – awdurdodau unedol ac ymgynghorwyr preifat
- Caffael gwaith trwy gontractwyr fframwaith
- Trefniadau tendro
- Datblygu a rheoli’r rhaglen gyfalaf flynyddol a’r rhaglen 5 mlynedd
- Rheoli cytundebau a mesur perfformiad
Trosglwyddir gwaith a nodir gan Dimau Gweithredu’r Ardal a Thimau Cyflwr Asedau i’r Tîm Peirianneg Asedau lle cânt eu datblygu a’u prosesu trwy feddalwedd rheoli gwerth Llywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o’r cyflwyniad ar gyfer cynnig am arian.

Enillir gwasanaethau cynllunio trwy Gytundebau Lefel Gwasanaeth gydag ymgynghoriaethau dylunio’r sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae’r tîm yn gyfrifol am gyflwyno cyfarwyddyd cynllunio a monitro perfformiad darparwyr y gwasanaethau.
Gwneir y gwaith gan nifer o gontractwyr ar draws y rhwydwaith gan ddefnyddio cytundebau fframwaith dan Amodau Cytundeb yr NEC. Mae hyn yn galluogi’r tîm i weithio’n agos â’r contractwyr ac yn caniatáu dull cydlynol wrth raglennu gweithiau ar y rhwydwaith er mwyn lleihau oedi ac anhwylustod i’r cyhoedd wrth deithio.
Mae perthynas waith agos rhwng aelodau’r tîm, darparwyr y gwasanaeth cynllunio a chontractwyr y fframwaith yn sicrhau bod yr arian sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol ac effeithlon a bod gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â’r rhaglen heb achosi oedi neu anhwylustod gormodol.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cynlluniau cynnal a chadw a gwella ar gyfer ffyrdd, pontydd a goleuadau, yn amrywio o ran gwerth o ychydig filoedd o bunnoedd am fân welliant hyd at filiwn o bunnoedd ar gyfer cynnal a chadw neu welliannau mawr.
Roedd y rhaglen ar gyfer 2006/7, sef blwyddyn waith gyntaf Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, yn cynnwys cyfanswm o 286 o gynlluniau ar draws y rhwydwaith.
