South Wales Trunk Road Agency

skip nav

Rheoli ac Ariannu'r Asiantaeth

Rheolir yr Asiantaeth o’i phencadlys yn y Courtyard, Parc Busnes Llandarsi sydd oddi ar Gyffordd 43 yr M4. Caiff ei chefnogi gan swyddfeydd gweithredu rhanbarthol yn San Clêr a Malpas (Casnewydd) a staff sy’n gweithio o’r Ganolfan Rheoli Traffig yn Coryton (Caerdydd)

South Wales Trunk Road Agency
South Wales Trunk Road Agency

Mae cyllideb flynyddol o tua £30 miliwn gan yr Asiantaeth ac mae’n cyflawni ei gwaith trwy gytundebau lefel gwasanaeth (CLGau) gyda darparwyr gwasanaeth awdurdodau lleol, ynghyd â chytundebau fframwaith ar gyfer y sector preifat i weithredu rhaglenni o waith cynnal a chadw strwythurol a garddwriaethol ar y priffyrdd.

Mae SWTRA yn paratoi rhaglen bum mlynedd o gynnal a chadw a gwella ac adolygir a blaenoriaethir y rhaglen yn flynyddol. Ar ôl gweld beth sydd angen ei wneud mewn blwyddyn benodol cyflwynir cais i LlCC ar gyfer y gweithiau. Wedyn dyrennir arian yn ôl cynlluniau a flaenoriaethir fel y gall yr Asiantaeth gyflwyno rhaglen Cynnal y Priffyrdd gwerth am arian ar ran y Cynulliad.

Dolenni cysylltiedig

Rhowch wybod am Ddigwyddiad

Rhowch wybod i ni am falurion neu geudyllau ar:

0845 602 6020

Traffic Image

Y Diweddaraf am y Traffig


yn Nhrafnidiaeth Cymru


Photo of a Road Steward

Diwrnod ym Mywyd:


Stiward y Ffyrdd