Y Cefndir i Ffurfio’r Asiantaeth
Yn 2001 adolygwyd y ffordd y rheolwyd Cefnffyrdd a Thraffyrdd yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC).
Ym Medi 2004 penderfynwyd lleihau nifer yr Asiantau Rheoli o wyth i dri. Y canlyniad oedd ffurfio ardaloedd asiantaeth newydd ar gyfer Gogledd, Canol a De Cymru.
Yn Hydref 2003 gwahoddwyd yr wyth Awdurdod Lleol a oedd ag asiantaeth yr un ganddynt gynnig am reoli ardaloedd yr asiantaethau newydd.
Cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gynnig gyda chefnogaeth y sectorau cyhoeddus a phreifat i reoli Asiantaeth De Cymru a chyhoeddwyd bod ei gynnig yn llwyddiannus yn Rhagfyr 2004.
Ar 1Ebrill 2006 dechreuodd yr Asiantaeth newydd ar gyfer Cefnffyrdd De Cymru reoli cefnffyrdd a thraffyrdd yn Ardal De Cymru am gyfnod dechreuol o 5 mlynedd.
Dolenni Cysylltiedig
